Dau fyd. Dau fywyd.
Mor ddigyfarfod â dau fynydd.
Dau fynydd a dwy nant yn tantro
yn antur ieuenctid,
yn rhuthro a rhwygo a rhegi
ar ddwy gainc ddigynghanedd.
Dwy nant yn ras wyllt o wallt
yn sgyrnygu ar gerrig
a'u chwerthiniad iach amharchus
yn bibonwy o boer
rhwng rhychau'r creigiau,
hen greigiau disyfl
dau fynydd, dau fywyd.
***
Dau fyd. Dau fynydd digyfaddawd yn gwgu
yn gwadu i'w godrau gwrdd yn slei
yn nharth y bore bach.
Dau fynydd a dwy nant yn eu hanterth
yn hyrddio'u hunain
i'r un afon lonydd.
Dau lif mewn un afon
a'u tonnau mân yn canfod
ei gilydd rhwng y glannau
yn plethu, a chlymu
a dal dwylo rhwng dwylan.
Un dw^r rhwng dwy lan,
un dw^r ar fore glwys
a brigau'r glannau'n glós
yn bwrw dail yn gonffeti ar y lli'.
Dau lif yn un afon,
Dau fyd yn fywyd.
***
Yr un afon yn donnau,
dwy don ar fôr o donnau,
dwy don yn un dynfa.
Ar lanw, ar drai a drycin,
er chwilio a chwalu,
fe dynn y don at y don
a'u hewyn yn wenau diog
ar draethell anghysbell.
Dwy don, un dynfa.
Un bywyd. Un byd.