A fyntau, Owain, a’i holl finteioedd,
Yn frau eu tariannau wedi’r trinoedd,
Yn canu â rhyfyg y
canrifoedd,
A stwr eu canu megis drycinoedd,
Nes gyrru i ymysgaroedd – y gelyn
Ryw waywffyn bach melyn wrth y miloedd,
Dyna floedd denau fel un
O wddw cyw brân dyddyn,
Rhyw wawchio o’r rhiw uchod:
“Glyn Dwr! Glyn Dwr!
Mae’r glaw’n dod!”
O, mae braw heb ymbarél
Ym Mach, na lle i ymochel;
Adre i’r llys y daw’r llu
Diferawl, nes daw fory,
A doed yfory, myn diain,
 thywydd eitha’ i Owain.