Cic
Eidon ar fy Plat
Ar
y 1af o Fawrth 1999, yn fuan wedi iddo gael ei ethol yn arweinydd y Blaid
Lafur yng Nghymru, fe wnaeth Alun Michael A.S. fwyta'r cig eidon ar yr
asgwrn anghyfreithlon mewn cinio gyda'r Tywysog Charles yng Nghasnewydd.
Tybiaf mai rhywbeth fel hyn oedd ei ymateb:
Aron
Pritchard
Ces
niwed yn Casnewydd,
un taer i'm 'PR' un dydd,
gydac e', mewn lle dydd Llun
yn ystod ein llwnctestun
dros caru ein Cymru cain
yn aros Im i'w arwain.
Yno, dyweodd *TONY*,
y mae yn rheidrwydd i mi
a'r Prince i edrych mor proud
yn Cymru, bod ni'n cymrawd,
a blast, nid oedd cynllun Blair
yn hip, pan ddaeth y swper.
"Hey, chill," dywedodd Charlie,
yn falch o'i flaen wrthyf fi,
"hello, what's this then, Alan?
Oh yes, lovely beef for one!"
Ar ras fe gwnes ei blasu,
a'n syth, dechreuodd y su,
rhyw ffars, rhyw stori arswyd
y bod na gwarth yn y bwyd.
O, iesgob! Ar yr asgwrn?
Bwyd mochaidd, ffiaidd o'r ffwrn!
Oh my, nid ydyw fy maeth
yn hyfryd gyda'r cyfraith!
Oh Lord, o achos fy lol,
mi ddaw i mi ymddeol!
Y fi ydyw'r cyntaf un!
Am gwarth! Am gwae! Am gwrthun!
Y
mae yn syth rhaid i mi
heno, i phoneio *TONY*,
a dweud wrtho am bwyd od
heb obaith i'r boi wybod.
"Hei ffrind," meddai Tone, "dim ffraeth;
edrych, fe wna'r llywodraeth
yn lawn newid deddf heb lol,
i un sy'n fwy derbyniol."
Ar
hast, a news fantastic
yn awr, fe phoneiais i Nick,
yn chwim, a newydd o chwaeth
yma, i Mr. Amaeth:
"Beef on bone before now, bad,"
ond teg yw un diwygiad:
"'Intent on one incentive,'
said Tone; 'no bone on the beef!'"