Ai doli ynte delw
iw addolin ddwl
ywr angel syn hongian
or nen
uwch y goeden gain?
Draw yn y dre
Mae na fôr o fwrlwm
a phobl au ffags
au miri mân, draw yn y dre
yn chwydu pob llychedyn
prin ou harian er mwyn prynu arwyr
a gêmau hoff y bych. Pa iws i Siôn Corn rhagor?
Ac erbyn dyfodiad ebrill ai gawodydd
a Mai ai oriau araul
i gysgodi lliwiau
gwyn y dolig diwethaf,
ymhle maer arwyr iw canfod?
Yn gweithiou ffyrdd i gysgu dan
gwrlid llychlyd llwyd
yr atig. Sneb yn becso dam am rheiny.
Caiff Barbie ac Action
Man eu rhoi i fyw mewn rhyw focs.
Daw rhai yn ôl ymhen blynyddoedd
Yn atgofion arswydus,
trig eraill yno.
Ac ymhle maer twrci yn y beibl?!
Bob blwyddyn, ceisiar
twrcwn eto i hercian
heb obaith
rhag ffwrnesir mamau au bachau budron.
Stwffiwch y Nadolig !
A ddaw Action Man yn ôl cyn bo hir
megis Arthur i adfer gwir ystyr y Nadolig?
Does bosib fod yr ystyr
yn stwffiedig hefyd yn nyfnderoedd
ymysgaroedd y twrci druan.
Beth am y doethion?
Pwy syn cofio rheiny ynghanol miri
canol y dref? beth am
y baban Iesu a u boenau oesol?..
O rialtwch y dre
af i eistedd am eiliad
a meddwl, mond am eiliad,
ond fe wyr pawb beth a ddaeth o feddwl