acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Elen Mererid, Golan yn 18 oed

Mei Mac

Mae mileniwm o lonydd
yn dod i'n cwfwr' pob dydd,
lonydd y stadau glanwaith,
a lonydd y mynydd maith,
lonydd oer, lonydd araf
yn stremp o lanast' yr haf,
a sawl lôn fel rasal hir -
mae miloedd am a welir.
Ond Elen fwyn, daw lôn fach
a chwil, un heb ei chulach
yn y man, a hon i mi
yw'r lôn i'w chrwydro 'leni.
Dyma hen lôn barddoniaeth,
tramwy beirdd a phrifeirdd ffraeth,
lle ceir englyn pob munud
a chloddiau'n gywyddau i gyd.
Cyn bod y Sais, cyn bod sôn
am y derw'n ymdaro'n
y nos, uwchben ei ffosydd
y bu beirdd yn canu a bydd
y beirdd hynny, barddoniaeth,
a holl firi'r cerddi caeth
yn dal i hel hyd y lôn
tra môr yn taro Meirion.

Ar d'union o dir deunaw
i fro'r glêr, waeth befo'r glaw,
mentra i'r lôn sy'n mynd tua'r wledd,
a honno'n llawn cynghanedd,
a gyda hyn mi gei di
adenydd - beth amdani?

 Rhagfyr 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)