acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Efo'r Plant yn Enlli ar Ddiwrnod Cneifio

Twm Morys

Fel roedd y cwch yn dod i'r lan
Mi glywn i frefu ym mhob man.

Mi es i at y ffarm, a sleifio
Heibio'r giât i'w gweld nhw'n cneifio.

Ac i'r mynydd a mi wedyn,
I fREUddwydio yn y rhedyn.

Ond dyma ryw hen niwl yn codi
Fel tae dwr y Cafn yn berwi,

A dyna chwalu, ar fy ngwir,
Y terfyn sydd rhwng môr a thir.

A dacw loeau yn y bae,
A'r cwch fel cimwch yn y cae.

A'r hen gorn cychod yn canu o hyd
'Run fath â'r ceiliog mwya'n y byd.

A dyna'r gwenoliaid fesul tair
Mor llambedyddiol dros y gwair.

 Gorffennaf 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)