acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)



Y Ffîn (ar noson dywyll)

Cynan Jones

Yn y niwl wrth adwy'r nos
Heriaf y gwyll sy'n aros
Amdanaf; amdo enaid
Yw'r ias a'i gofleidio'n rhaid.

Heno mae sêr yn gwenu
Ynof ddoe roedd rhyw nef ddu
Ac annog tua'r clogwyn
Y mae'r llais ym merw'r llyn.
Yn y graig fe glywaf gri
Hunllef yng nghur y cenlli
Yn galw, galw o'r gwyll
I'm tywys tua'r tywyll;

A rhaid yw mynd tua'r adwy,
Mynd gyda'r niwloedd wyf mwy.

Mai 2002

cnvrule.gif (2354 bytes)