|












| |
Gofyn plu (yn 43) i Mei Mac
Iwan Llwyd
Mae fy het yn ddu eto,
lliw y glaw a lliw y glo,
lliw dilyw, lliw dialedd,
lliw gwg, a bilwg a bedd,
a lliw Tachwedd sy'n weddus
i wr a'i oed ar ei grys:
fe fu yn het athletig,
hon fu'n goron mewn gìg;
un lew o Efrog Newydd,
un dew i wynebu'r dydd:
porc pei fu'n wers i berson,
pastai a ddiddanai oedd hon:
heno mae'n het wahanol:
fel bol buwch a chuwch o'i hôl;
collwyd y lliwiau nwydus,
ac mae'r Llwyd yn llwyd mewn llys;
yn isel dan gantel gwg,
yn chwerw fel llwch iorwg:
felly, brifardd pob harddwch,
dyro i het dy blu yn drwch;
plu parot reit dafotrydd,
plu paun ar y waun yn rhydd;
plu'r crëyr neu'r eryr ar
binaclau creigiau'r grugiar:
gwna i hudwr gwyniadau
roi i het fodd i sicrhau
yfory sy'n ddifyrrwch,
a dyddiau'n lliwiau, nid llwch:
rho i gantel orwelion
fydd byw drwy'r dilyw a'r don.
Tachwedd 2000
|