Grugieir
Iwan Llwyd
Mae 'na obaith
yng Nghyffylliog,
maen nhw'n clirio'r coed,
paratoi'r tir,
atal y llif,
caniatáu cenhedlu,
parchu dawnsfeydd,
ymladdfa'r ceiliogod:
camerâu teledu,
meicroffonau,
mae eu cri i'w glywed
filltir i fwrdd:
fe arhosais innau
wrth far yn Nhregaron
am wythnos
cyn clywed gair o'r iaith.
Mehefin 2001