Crwydra'r anffodus yn fyw o'r distryw,
Drwy rwbel eu tai, heb feistr i'w harwain.
Griddfan gwragedd a phawennau cochliw,
Ond nid am ryfelwyr y casgla'r brain.
Dan do mae'r meirw, dim eto'n bwydo'r drain,
Ond digartref yw'r byw, heb do na thân.
Milwyr bwganaidd a gyfra'r celain,
A chadw heddwch yn nhre'r morgrug mân.
Yng ngwacter yr adladd, fe ffyn gobaith,
Ar oror dinistr, cymydog bob un,
Cydweithiant i adfer dinas ddiffaith,
A chodi dyfodol o'r plisgyn crin.
O ludw distryw y cwyd gobaith,
Wrth weithio'n ddiwyd i waredu'r graith.
Mewn Olympus arfog cudd duwiau bach,
Yn pennu ffawd eu dynion heb ddewis.
Bygwth plentynaidd rhai eraill mewn strach,
Hofran uwch botwm a wna'i bysedd piws.
Clyw twt-twtian gwleidyddion o'r seinydd,
A'u gwaedd groch am ymyrraeth fyddinol,
Barnwn y bobl o'n cysegr fynydd,
Cliriwn eu poen o'n bydoedd bach swynol.
Pan gyrraedd y gelyn, tynnwn ynghyd,
Yn un bobl o dan faner heddwch,
Ni wyrwn o'r llwybr am unrhyw fryd,
Mynnwn amddiffyn y byd a'i harddwch.
Chwâl milwyr milain fflam ddynion mân,
Ni adawn iddynt i ddiffodd ein tân.