|












| |
Mae gwers ym mhob stori
Iwan Rhys
Mi brynais innau gar ac yna'n gloi
mi es ag ef i'r dre a cheisio'i werthu
ac yna cerddais hyd nes imi droi
(ond dwn i ddim pam wnes i ymdrafferthu)
a myned wedyn draw i weled Jac
sy'n hoff o alw 'restaurant' ar y caffi
tra'n eistedd lawr i wylio Cilla Black
a'i dychmygu hithau'n ceisio bwyto taffi
ac yna, cyn dod adref, es i'r siop
i brynu baco rhad a phwys o dato
a disen o wye mowr a photel bop
a pheder cacen fach a dwy domato.
Mae'n siwr bod yn fy stori wers i'w thrafod
Ond hyd yn hyn, dwi'n methu'n lān ā'i chanfod.
Medi 2001
|