|












| |
Talu Gwrogaeth
Emyr Lewis
Ni ddof gan ddwyn cleddyfau
na gwayw-ffyn i'w goffáu
dan falchder chwil baneri,
tariannau dreigiau di-ri,
gan ddilyn twrw mintai'n
garnau meirch ac utgyrn main.
Ni ddof gan honni cofio'n
ddi-dor am ei freuddwyd o
bob un dydd dwi'n byw. On'd aeth
ei gleddyf a'i arglwyddiaeth,
yn arafwch canrifoedd,
yn inc blêr, yn eco bloedd?
Eto'r chwe chanfed Medi,
a 'mhlant wrth fy ymyl i
a'u gwên yn Gymraeg i gyd,
y dof; a, siawns, daw hefyd
eto, rywdro, un o'r rhain
a chywydd bach i Owain.
Medi 2000
|