acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Gwydyr

(i Cymuned)

Twm Morys

Drwy wydyr yn dywyll ’dan ni’n sbïo o hyd
A thywyll drwy’r gwydyr yw golwg y byd.

Drwy’r gwydyr ni welwn ni’r môr yn iawn;
Rhy fach ydi’r gwydyr i’w ddangos o’n llawn.

Drwy’r gwydyr mae winc y goleudy yn wan,
Ac wrth daro’n y gwydyr, mae’n chwalu i bob man.

Drwy’r gwydyr mi glywn ni y bwi o bell,
Ond mae’r glaw ar y gwydyr fel bariau mewn cell.

Ac wrth sbïo drwy’r gwydyr, heb wynt yn ein gwallt,
A’n trwyn wrth y gwydyr heb oglau’r môr hallt,

Mi aethom i gredu bod pob dim ar ben,
A’n bys ar y gwydyr yn sgwennu amén…

Malwn y gwydyr, os na ’di o’n rhy gry’,
Neu’n well na hynny, awn ni allan o’r ty!

Mawrth 2003

cnvrule.gif (2354 bytes)