Tridiau o ddim ond trydar
beirdd efo beirdd wrth y bar,
y Marine yn Gymru iach
aml lais a melysach,
Costa Brava o brifeirdd,
yn gotiau a hetiau heirdd
llond Ebrill o Ebillion,
dynas dew a dyn naw stôn,
llyfrau yn dal gwydrau gwin
a rwbath mawr ar Robin.
Tri triw heb fentro i'r traeth,
a hwnnw'n llawn barddoniaeth,
a dau, yn eu cwrw'n dod
o Drefan eto i'w drafod.
T. Llew a phedwar dewin,
a gwerth Clywedog o win,
Ifor ap, a neb ar frys,
Eirug Wyn y Drygionus,
a'r Boliog, Stoliog mewn stâd
ar lwyfan ar ôl yfad.
Dima o academydd
yn rhoi stop ar wres y dydd,
Tomos yn colli tymer,
a dau blin mewn dillad blêr
am wneud englyn pob munud,
ac adar, adar o hyd
"Adar mân dewr y mynydd"
adar RS - adar rhydd.
Ydy, mae'n drist mynd o'r Wyl
a swn dau Forys annwyl.