|












| |
Gwyliau
Dafydd John Pritchard
( Mae rhai yn sôn y dylai Aber geisio denu math gwahanol o
ymwelydd )
Hen oglau gwymon a chan gwylanod
heno yn achwyn uwch fflyd o gychod,
a hel eu manna mae'r colomennod
sy'n pasio heibio yn ddi-adnabod.
Oriau diog ar dywod, chwarae mig,
a hogiau unig ar ôl y genod.
Mae boliau'r Brymis, a'r haul yn isel,
yn fis o gyris hyd at y gorwel,
yn ganu awchus, yn rhegi'n uchel,
yn gwffio eto, yn ffag a photel,
yn oriau hir ar yr êl; ond gwyliwch
nhw'n herio düwch eu ffatri dawel.
Dau'n chwilio cysur yn glos i'r muriau
ac ildio'n llwyr i synnwyr cusannau
a neb i'w herio; cael bod heb eiriau
yn un â'i gilydd dros ffling y gwyliau.
Eiliad, ac yn eu holau'n araf iawn,
yn araf iawn i'r parc carafannau.
I heulwen Aber a hwyl y nabod,
y geiriau tawel a saga'r tywod,
i swn y don, nhw sy'n dod ar eu taith
i'w gwyliau uniaith yn swn gwylanod
Mehefin 2000
|