Y siroedd fu'n cyhoeddi
ers hen oes eu croeso i ni,
rhoi i ninnau freichiau'r fro
i'n hannog ni oll yno,
criw un ardal yn galw'r
wlad yn ôl i'w haelwyd nhw.
I un man, bob diwedd Mai
o raid, y criw a heidiai,
i un lle fe ddoi'r llawer
i rannu haf yr un her,
i aros wythnos ar wair
yn feddw, dyna fyddai'r
arferiad i'r ddiadell
na wyddai ddoe am ffordd well.
Dod yno at stondinwyr
a phob un yn syllu'n sur,
i fynwent carafanau
sy yno'n sownd ers nos Iau!
Ond eleni dilynwn
ninnau'r sawl sy'n creu y swn,
dilyn i ddau adeilad
i hyn o wledd mewn un wlad.
Gwyl hud heb y glaw ydyw,
gwyl i Dde a Gogledd yw.
A'r tro cynta'n ein hanes
dod wna hon â'r wlad yn nes.
Dod i'r Wyl wna Cofis dre,
i'r oed â bois y Strade.
A'n dwylo'n Arfon, rym ni'n
cydio dwylo Cydweli,
y de a'i ddawn yn Rhyd-Ddu,
dawn Llanwnda'n Llwynhendy!
Pan glywir Fflur a Mirain
a'u swn gwâr yn asio'n gain,
rywfodd fe glywir hefyd
uno'r gân drwy Gymru i gyd.
Fe feddwn y tonfeddi
a'r rhain oll a'n caria ni
ar daith dros gymylau'r dydd
i'n huno mewn llawenydd.
Yma y mae i'n cymell
un ffordd sy'n agos a phell,
a down, down gan gario'r dydd
yn ein gwyl gyda'n gilydd.