acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Hen Gitār

(All things must pass)

Iwan Llwyd

Hen ddydd Gwener rhyfedd
a chastell Cricieth yn y niwl
fel het hen wraig, a llanw
marwolaeth yn cadw cwmni:

tair ohonyn nhw, a heneiddio ydi
rhoi'r gitār yn y to;
yr hen frwydr anorffenedig
rhwng bwrw 'mlaen a rhoi'r gorau:

mae hyd yn oed y tymhorau
wedi drysu: gloynnod byw
yn deor, a gwynt y dwyrain
wedi dewis peidio hedfan:

mān siarad ydi'r cyfan -
dail llynedd, dwylo llonydd,
hen gitār yn wylo
yn ddiymgeledd.

Rhagfyr 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)