acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

I Het y Llwyd

Twm Morys

Bu ymysg yr hetiau 'mhob man: - het wen,
Het wellt, het â rhuban,
Y tarbwsh coch, a'r tyrban.

Bonet yr Alban, y trilbi - di-lol,
Cap bêsbol, het bysbi,
A het y Pab, a'r topî.

Arbrofi â'r bere hefyd. - Trio het
Ar hap, a'i dychwelyd;
Trio y bu hetiau'r byd.

Trwy'r byd, roedd hetio ar ben,
Hasbin oedd y diddosben,
Oherwydd i'r dihiryn
Bara o hyd heb yr un,
A ninnau, bawb, yn y bôn,
Yn dynwared yn wirion.
Aeth hetiwr diarth ato
Isio parch i'r hen siapô:
'Mynna het ym Manhattan,
Het o well brîd, het lliw brân,
Het lliw'r glaw tywyll, a'r glo,
A phluen arni'n fflio.'
A dyna'r Llwyd amdani:
Y porc-pei ar y ciw-pi,
A phlu o hoff liw Iwan
Ymysg yr hetiau 'mhob man.

 Ionawr 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)