|












| |
Hiraeth
Aron Pritchard
Rwy’n teithio eto i’r hen wastatir,
yno i ardal y daw o’i harfordir
gyffro sy’n hudo, ond mae'r Deheudir
a’i anwyldeb, fy nhrefol anialdir,
yn dal yn gwmni dros dir fy nheithiau:
y mae holltau rhwng y chwe deg milltir.
Ionawr 2002
|