Awr yn ôl, roedd bardd Tir Neb
Heb enw, a heb wyneb,
Oherwydd hen dderwydd oedd
Yn peidio dweud pwy ydoedd…
Tir Neb. Ofnem wynebu
Rhith o dorf ar ryw draeth du.
Ond Duw, ar y seithfed dydd,
At ford Ifor daeth Dafydd,
Ac roedd Saesneg Tredegar
Yn bell oddi wrth y bar,
A’r Twrch yn troi at erchwyn
Yr hen Went, a’r dwr yn wyn…
Daw’r ail wynt wedi’r wyl hon,
A ha’ mawr i Huw Meirion,
Ac eith ar lôn obeithiol
O dir neb i Landre’n ôl.