Hydref; a thirlun trefol
nad oes iddo liwiau dôl,
ond alaw siffrwd deiliach
annifyr drwy'r awyr iach,
ac o raid mae oerwynt cras
yn twrio drwy'r tai teras.
Ar gynn bob nos mor gynnar
i gyd, y mae'r lampau gwâr,
a llenni'r tai sy'n llanw
yn waedd o'u cynhesrwydd nhw.
Diangen yw dweud heno
i hen frawd ddod 'nôl i'r fro.