Ifor bach! Mor fawr yw byd ieir - yr hesg
Ar eu hynt gwybedlyd,
Yn rhwyfo, clochdar hefyd,
Ar hast tuag Ynys yr Hud.
Difyr eu byd, Ifor bach,
Yn loetran mewn hen lwtrach,
Brawd ydi pawb o’r adar,
Ond dyna wych bod yn iâr!
Iâr ddedwydd, nid iâr ddodwy,
Iâr hesg na ferwir ei hwy,
Nid iâr fwyn, dew, iâr ofn dwr,
Ond iâr hy, dinddu, danddwr,
Iâr ddi-gwt, iâr ddu i gyd,
Iâr ddifyr, iâr ddiofid.
Ond dyna ofid i ninnau, Ifor,
Lapio dy gorff yn yr hances porffor,
Yn wy echdoe, a ddoe newydd ddeor,
Heddiw’n grib ysig, yn big heb agor,
A thros y llyn, y mymryn môr, - hel d’arch
Tua’r tywarch, ac alarch yn elor.
Naw wfft i’r elor, yn iach i’r ddaear!
Iâr i Dduw wyt bellach,
Yn bwyta gwell gwybetach
Na dyfrieir byd, Ifor bach.