Heno, 'sdim un gair
gwerth ei yngan
na rebel o fys eiliade
a fynn fynd sha nôl,
'sdim un gwanwyn
a all leddfu'r gaeaf hwn
nac 'Ankoù' trugarog
a'i gryman dal heb gwmpo,
Dagre'rlleuad sy'n gwlychu'r sêr
a heb ei gwên y mae'r wawr
ers dyddiau.
Heno,gwag yw'r bydysawd,
hebddot ti
gwag yw'r geiriau hyn,
heb lygedyn o ole,
heb ddim ond twll du yn dy le,
hwnnw wedi llyncu'r
planede cyfagos yn gyfan.
Ond heno, gall, fe all y cof
fframio dy wên
ar furiau ei oriel.
Caeaist y drws yn glep
a mynd.