Kywydd Kilt Kwl Kymru
Emyr Lewis
Rown in mynd drwyr Western Mêl
yn daeog ac yn dawel,
darllen â phen yn llawn ffydd
neon y Gymru newydd,
yn gaib a chyfan gwbwl
gredu fod Cymrun cwl,
pan welais lun dyn â dwy
goes odiaeth o gosadwy
mewn ciltwisg smart, mewn tartan.
Crafais mhen, a darllen dan
y llun y geiriau llanw
r wyn awr am eu rhannu nhw:
The males in New Wales will wear
trouser-and-jacket dresswear
no more! See the New Welsh man
bearing a cool-celt sporran
(Ioan on the Titanic
used one to cover his dick),
catatonian tartan too.
Yn gul fy nghoesau gwelw,
myfyriwn am oferedd
di-nod fy mod cyn fy medd:
a minnaun storm o hormons
sut y jawl cawn Zeta Jones
ai denu im caru? Cilt!
Mawlgan ir Western Mêlgilt!
Titanic! Catatonia!
Rhaid im, os own Gymro da,
gael un or rhain. Gwelwn res
o genod hynod gynnes
glandeg yn rhedeg ar ôl
fir cenau llwfr canol
oed, fel y gallont godi
fy ni-lodre odre i.
Es ir siop, gwario popeth,
herio pawb a gwisgor peth.
Tynnes, fel yn y Mesons,
ar frys fy nhrowsus a nhrôns,
a chamun falch mewn i far,
dangos fy nghoesau dengar,
i ddwy hyfryd, yn ddifrawn
gilt i gyd, yn Gelt go iawn.
Ych a pych ebychient,pwy
ydywr hen wr ofnadwy
a di-chwaeth? Trendi a chwl
ydwyf, ceisiais ddywedyd;
ond, am boets, ni ddôi dim byd
o ngheg ond Saesneg, fel Sais.
Fel hyn yr ymgyflwynais:
Im a Celt, and my culture
is found in my sporrans fur.
Sglyfath! Cym fath! Yr hen
fôr!
Sgotyn, ti isio sgutor?
Methiant fur cilt ai antur.
Yn swil, siomedig a sur,
es at ryw seiciatrydd
a dweud am hanes y dydd.
Rhennais fy ngwefr, a rhannu
y fawr rwystredigaeth fu.
Wedi rhannu, pendronodd
y shrinc, ai neges a rôdd:
So weak is your drive for sex;
ampler is your kilt complex.
Not complex. Sex, ddwedais i,
without trwsus is easy.
Cyn cau ceg, dyma bregeth
i bawb am chwi wyddoch beth.
Ai cenedl yr eiconau;
ywr hon rym nin ei mawrhau?
Ai tir y sbin-ddoctoriaid
heno yw tir Nain a Taid?
Mor hurt fydd Cymru ei hun
heb yr iaith yn ei brethyn.
Mor rhad yw ein Cymru rydd
ai chwl yw ei chywilydd,
â heip yn ein hiselhau
yn Saeson heb drwsusau.