acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Lliw adar ar ben Llwydyn

Mei Mac

Yr wyf yn nabod prifardd
o dan het nad ydyw’n hardd,
Un gul ei hymyl yw hi
Hen benwisg sy’n ei boeni,
Heb na lliw na ruban llon
Hyd ei gwaelod digalon.
Mae hi’n bydew myn Dewi
Ma’n hen ond mae’i hangen hi’n
Het waith am gorun teithiwr,
Het arbed un trwbadwr
Rhag glaw mawr o Gilmeri.
Y mae hi’n nawdd am wn i.

Ond het dweud adnod yw hon
a moel yw ei hymylon.
Mae’n ddu fel y fagddu fawr,
Anial fel traethau Ionawr,
Het lom, gymhleth ei brethyn,
Fel het y Diafol ei hun,
Araith o het alaru,
Het blaen - heb rupunt o blu.

Ond dyma daflu pluen
At fardd pig i godi gwên:
Darn bach o farclod pioden,
Crys sidan yr wylan wen,
Tamaid o wasgod Tomos,
neu ran o wn crëyr y nos.

Un dydd, o’m herwydd, hwyrach
y daw’r bardd ar grwydyr bach
A’i het yn gwenu eto
Ar groen aur ei gorun o.
Ei wyneb fel ei benwisg,
Ei diwn cyn sionced â’i wisg,
Un bardd o’i gynffon i’w big
Yn harddach na’r hen Erddig.

 Tachwedd 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)