acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Llygad y Dydd

(I Gyfarch Mererid Hopwood)

Aron Pritchard

Gwanwyn sydd eto'n gwenu
hyd y lawnt, a blodau lu
'mhob cornel sy'n dychwelyd
drosti'n frethyn gwyn i gyd.
Wylo a wnei pan weli
gan hyn, dy flodeuyn di:
un tila ei betalau
yn gwywo, gwywo mewn gwae.

Huno a wnaeth dy wanwyn,
a'r haf, ni ddaw mwy, er hyn,
ynot ti mae cerddi'r co'
yn dawel yn blodeuo.

Medi 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)