acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Lowri

Iwan Rhys

Gafael, flodeuog Efa,
yn fy llaw. Arwain fy llais,
fy lliw, fy llên,
i minnau dy gyfarch am ennyd . . . .

Perlau'r glaw
sy'n disgyn yma a thraw
ar dy wedd a'th rin
yn bersawr.

Wrth wawrio,
dau lygad y dydd yw dy offrwm
sy'n deffro byd natur.

Naturiol lawen dy wên wych
a chyda threm y wên fywiog hon
daw'r petalau gwynion
i ganu eu cân.

Cusanaf dy wefusau:
fe'u dyfeisiwyd
ar ynys unig, bellennig,
yn y llanw a'r trai.

Trwm wyf i heb Lowri lân
canys ti a mi, fy merch,
yw efeilliaid fy afallon.

Yn awr, llawen wyf er eithin y dydd:
dy chwerthiniad iach
a neithdar dy dafod
sy'n codi fy nghalon.

Wyt haf angylaidd, fy Mlodeuwedd!
Fy melodiau sy'n ddafnau ar dy liwiau'n lân
a blodau'r berth yw dy brydferthwch
a gwawr petalau yw gwrid dy ruddiau.

. . . . Ni all y derwyddon,
er eu doniau, na'r dewiniaid
na Gwydion gadarn
gastio dy gystal,
ferch fwyn.

Medi 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)