Y mae adeg ym Medi,
A’r dydd yn llonydd, fel lli
Yn llonydd ar benllanw,
A llwyn dail yn llawn ei dw’.
Adeg, a’r byd yn oedi
Cyn troi lliw, cyn treio o’r lli.
Yn y bwlch hwnnw y bu
Ynfydion mewn hen feudy.
Wedi i Mei newid man
Y fuwch yn neuadd fechan,
A gwneud hen fing gynt yn far
I’w osgordd fawr ginusgar,
Gwastad oedd dysgl pob gwestai
A’i llond o sgram Moira Mai.
Wrth y Beudy, deudy del,
Un iach, ac un i’w ochel;
Reudy i roi Ed a’i rôl,
A geudy bach cysgodol.
O’r Beudy i’r reudy’r aeth
Meirion, o ran ymyrraeth,
A chwerthin y gyfrinach
O’r reudy i’r Beudy Bach…
Canu’n iach i’n Macyn ni – a wnaethom,
A nythu ’Mrysgyni.
Mae’n aea’ oer, mi wn i;
Ond, ynfydion! Daw’n Fedi!