acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Y mae'n wag yma yn awr

Aron Pritchard

Unwaith, bu anrheuliedig haul yr haf
yn arllwys ei wres
dros y bus stop dur
a hithau yno.
Minnau'n lapio'r munudau
o'i chael yn gwmpeini achlysurol,
a'r traffig
mor bell i ffwrdd...

Ond heno,
a chwip yr hydref yn carpedu'r lloches
yn rhyw oren rhy arw,
y mae'n wag yma yn awr.
Llarpiwyd y munudau
yn swn ceir,
a gwn:
wedi mynd y mae hi.

Medi 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)