Magwyrydd
Sian Northey
Casgliad buddugol
cystadleuaeth y gadair Yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid 2002
Magwyrydd
Dau ddist yn
llacio’n ddistaw,
Trwy’r craciau daw gleiniau glaw,
yn ffrwd yng nghysgod pob ffrae,
Dwr chwerw i dair chwarae,
Diferion ein difaru.
Chwaraeant, ein plant fel plu,
Curo llaw i hen ’lawon,
er cleisiau, a’u lleisiau llon
yn orchudd na all guddio
nad yw ty mond oed y to.
Ein brad a wna lechi brau,
Ein twyll – paent dros y tyllau.
Y Dechrau
Gosodwyd carreg
sylfaen yr adeilad hwn
yn ’81,
Steddfod Machynlleth,
cefn Transit,
Bolero.
Tafarndai o wynebau
a hwn yn gwenu.
A be ydi gwên
ond gwefusau,
A gwefusau
ond cusan,
A chusan
ond rhyw,
A rhyw ond cariad…
Ond pam hwn
a’i wên?
Ta waeth……
Y Ty
Crefft pensaer
yw creu deuoliaeth,
Y paradocs na allai fodoli mewn cae arall,
mewn amser arall.
Ei feithrin o’r graig
yn ddistiau dur dan doeau gwellt.
Ymddangosodd ddoe – bu yno erioed,
Yn gadarn fregus,
Yn ymarferol gain,
Yn gusan wrth wagio biniau.
Dadrithio
Blodeuodd serch
yn fanadl o flynyddoedd,
Ein gwreiddiau’n blith draphlith
yng nghynfasau bore Sul,
a’r gwlith yn oer.
Ond daeth gwyddon beichiogrwydd
a gwneud gwraig ohonof.
Rhoi croen,
rhoi crys.
Rhoi gwallt,
rhoi rhuban.
Rhoi llygaid,
rhoi ffenest.
Dwylo i deimlo’r calch,
ewinedd i ’sgythru’r parwydydd.
Tu ôl i ddrysau
caeëdig
Fy
nghrafiadau i a’u llaciodd,
Erydu’r cymrwd rhyngddynt â’m tafod,
gwthio gewin i’r hollt,
dal ati o’r tu mewn,
lle nad oes neb yn gweld.
Dal ati nes bod y cynta’n ddigon llac
iddo’i gwthio rhyw noson chwil.
Bu’r lleill yn haws.
Ga i stori arall?
Mae rhieni da yn
adrodd storiau i’w plant,
yn ddeddfol fin nos mewn llofftydd gwâr,
i agor llenni ar fydoedd pell.
“A phwy fu’n cysgu yn fy ngwely i?
….i’r gegin at y cogydd….
…a’i tharo am y drydedd gwaith…
…ac fe chwythaf, ac fe chwythaf..”
Mae ochr finiog
i ddalen.
Gall dynnu gwaed.
Cwpled a dau bennill
Ni’n dau ar ryw
benrhyn du
heno’n trafod gwahanu.
Gofyn wyf a ddaw
yfory?
Gofyn wyf a fydd cywely?
Gofyn wyf a dyf y plantos?
Gofyn wyf a gaf i aros?
Daw yfory pan
fydd gwawrio,
Byddaf yma’n ddistaw grio,
Tyf y plant lle mae eu gwreiddiau,
Mi gei aros, gwadaf ddagrau.
Heb i neb
arall sylwi
Am fod y rhein
yn sylfeini,
ailgodwn ac ailgydio,
troi y bedd petryal
yn adeilad. Heno cawn stori’r Dilyw,
Sinderela a’r swyn hud a’r hwyliau.
Bydd eto ddau i ddatod
clymau, dau eto fel distiau dur.
Ond am ddau
o’r gloch y bore
Fferru
o flaen marwydos yn darllen,
a phawb yn cysgu.
Edrych arnynt,
Eu cledrau’n ddyrnau
a’i ddwrn yn gledr.
Ymestyn fy mysedd
i gyffwrdd ein waliau gwyn,
atheimlo dim.
All un ddim cynnal rhithwir.
Fferru
o flaen marwydos
nes daw’r bore
a waliau pre-fab
ein cusan gwrtais
i guddio carnedd cariad.
Magwyrydd
Ein twyll, paent
dros y tyllau,
a’n brad sydd yn llechi brau
yn ysgwyd, dim ond esgus
o graig, tebycach i grys
‘di frodio, ar do, yn dal
i gydio. Dwi ofn gada’l,
un lwfr mewn gwâl o lyfrau,
yn dal i esgus fod dau
yn deulu cerdyn Dolig.
Chwarae mam wrth chwarae mig,
a golchi neu wyngalchu.
A’n tair? I’r rhain, hyn yw tŷ.
Mehefin 2002