acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

I Mair Glan yr Afon ar ei Phen Blwydd

Twm Morys

Heddiw (ers ambell flwyddyn)
Mewn llofft mewn ty-ffarm yn Llyn,
Cyn y niwl, adeg y cnau,
Adeg naid y gwyniadau,
A chant o blant ym mhob lôn
Ar dywydd mwyar duon,
Ganwyd hon, ac yn y ty
Hwnnw'r oedd dau yn gwenu.
A bu lamp drwy'r gaea' blin,
Golau i Edward ac Elin...

Mae tân braf yng Nglan 'Rafon,
A serch bod eu merch ym Môn,
Daw'r sêr, toc, hyd Roshirwaun,
Yn rwbal aur, fel o'r blaen.
Yn y Penrhyn Melyn mae
Ei henw'n wynt a thonnau.
Brefu mae holl loeau Llyn,
Cnadu y mae'r cwn wedyn,
A hon yn cysgu heno'n
Llanbedr Goch, efo moch Môn.

 Hydref 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)