|












| |
Manion
Gwilym Morus
Yn nhonnau llyn, yn y brwyn llonydd
a phennau bach glas pinnau’r pinwydd,
ennyd agor briallu’n digwydd
a nwydau’r aer yn yr adar rhydd,
dilyn awel a deilen newydd,
ym mela’r gwenyn, ym mhlu’r gweunydd
a’i ddafn llai, llai o ddefnydd yn yfflon –
yn y manion diflanna’r mynydd.
Hydref 2004
|