Map
Mei Mac
Ni welir trwch y niwlen - yn lledu'n
llediaith dros fro'r lechen,
ni wêl neb yr un Lôn Wen
na'i dolur ar dudalen.
Medi 2000