|
|
|
|
'Marwnad' Twm MorysMei MacTristach yw'r Cymry trostyn'tre' a gwlad am fentro i'r glyn un bore oer yn llawn brain a'i gael, dan het, yn gelain; Twm ei hun, eu heilun nhw yn Dwm Morys 'di marw. Yn Forys sych ei feiro, yn Dwm trwm 'fu'n fardd un tro. Cyn bod 'run gwalch 'di codi a chyn i lwynog na chi gyfarth, cyn bod y gwartheg yn y rhyd, dan gwmwl rheg aed ag o yn flodau i gyd drwy'r afon a'r dre hefyd, drwy Drefan a sawl Annedd, drwy dai tafarndai - i'w fedd. Wrth ei elor wyth olwyn, yr oedd môr o chwilfeirdd mwyn wedi dod yn gwmwl du i hwylio'r bardd i'w wely. Clerwr mewn byclau arian, naw mil o sgwarnogod mân, afanc, ac ambell brifardd, a'r ferch sy'n brifo o hardd. Arafodd ei fyd reufawr, mewn arch y mae Twm yn awr, arch hir lom, arch orau'r wlad a chywydd ar ei chaead. Ac uwch ei arch waetgoch o yn brifardd wedi brifo, crïo fyth o grwc 'rwyf i, diau na fedraf dewi. Ond bydd pobol yn holi am hwn yn hir mi wn i, yn barod pob ben bora maen nhw'n dod yn gwmni da i daflu hetiau duon ar ei fedd mawr lawr y lôn. O Ly^n i waliau union y dref wleb hydrefol hon, mewn tai oer, mewn tai teras, tai crynion, drudion o dras, mewn hen gestyll, mewn gwestai, yn y ty^ hwn ac mewn tai eraill blêr, mewn llawer llys mae hiraeth am Dwm Morys. Tachwedd 2000
|