|












| |
Marwydos
Aron Pritchard
Er bod 'na niwlen rhwng y paen a'r pwll,
a'r maes, o lolfa'r cartref yn dra phell,
'rwyf innau'n dal i weled llwnc y twll,
a dur oer yr olwynion uwch y gell.
Unig yw'r tir diffaith yno yn awr,
fel lleuad lawn drwy darthoedd nos o rew,
ni chlywir dim ond swn llonyddwch mawr
o amgylch silwét y domen dew.
Ond yn fy mheswch, teimlaf innau'r gwres
fu gynt mor danbaid mewn ffwrneisi maith,
ac angerdd coll rhwng dynion mewn un rhes
wrth gloddio cyfeillgarwch dyddiau gwaith.
Ond pylu wna atgofion yr holl fri,
drwy'r niwlen laith o gylch fy llygaid i."
Chwefror 2001
|