Er cof am Mary
Gwilym Morus
Hiraeth wehydda'r oriau,
gwe y gwyll, yr edau'n gwau
eu hawl oer ar olau hon;
chwalant liwiau ei chalon.
Am y chwaer yr aer ddirha
Yn dywyllwch a dwylla.
Ei brawd, yn ofid, gerbron,
yn chwilio am ei chalon;
yn 'styried yr hen stori -
loes colli ei heinioes hi.
Gwylia dros yr egwyl draw,
un tyst i godiad distaw
golau yn y mannau maith,
ac yna'n diosg unwaith
geni'r haul a gynna'r oll -
llewyrcha drwy wyll archoll.
Am eiliad mae ei holion
ym more yr hendre' hon,
yn ei wydr ei phelydrau
sy'n chware, yn frithwe frau
sy'n dangos nwyd ieuenga'
ei hoes, yn llunio ei ha'.
Mae hi'n agor mewn egin,
mewn ffrwythau mêl gwêl ei gwin -
an hyn, eisoes, hon fu'n hau
ei cho' i bridd ei chaeau.
Yn ymyl, mae hi yma'n
awel hir, yn olau ha',
yn y ddawns a goda ddail
ac awydd twf y gwiail -
hon, mor glir yng ngemau'r glaw
ar osgo cain yr ysgaw;
yn llifo yng ngwyll afon
yn isel, dawel ar don,
yn dilyn dwr y dolau
i roi'r baich yn nwr y bau,
i'w weilgi a'i uchelgais.
Tros y lli mae tras ei llais
yn galw ei henw hi,
a'r môr, y môr yw Mary.
Mae hi nawr yma'n aros,
yn digwydd yn nydd a nos
y llefydd hyn sy'n cuddio
ei chorff, ei chariad a'i cho' -
yn dal yn y neuadd deg,
ei gorau yn ei garreg.