Pa nosweth, yn nhafarn y Wyrcis,
peth doniol ar y naw
oedd gweld Morys nad yw 'di marw
â meicroffôn yn ei law.
Un meicroffôn oedd ganddo fe sylwch,
un meicroffôn i gynnal y nwyd,
un meicroffôn i geg Twm Morys,
a'r un meicroffôn i gitâr
Iwan Llwyd.
A dyna lle'r oedd Twm ac Iwan
yn edrych fel caseg a chob:
yn wir fe allen i gredu
fod Twm Morys yn rhoi blow
Job oedd 'da Morys i beidio
â gollwng ei sigarèt
wrth i'r meicroffôn ddilyn y geiriau
a'r miwsig o'r geg i'r ffrèt.
Tro nesa y dewch i Gwm Gwendraeth
i ganu yn ein plith
rhowch feicroffôn ar eich ochr dde
a rhowch un "Bob tro ar y chwith"!