|












| |
Nadolig yng Nghymru 2004
Arwyn Groe
Baban mewn crud sy'n hudo
gwy^r doeth, ond nid ei grud o
ydio; Tinsel ar goeden,
mae'n 'aea' yng Ngwalia wen.
Rho y myrr am eiriau mud,
yn naïf rho'n haf hefyd,
a thus ein cymdeithasau
i'r un sy'n herio'th barhau;
Rho heddiw dy dir iddo,
rho dy aur yn ei grud o.
Rho i'r baban bach annwyl
waedu iaith i godi'i hwyl.
Yng Ngwalia ddi-angylion
daear hesb yw'r stori hon
nad yw'n d'eud am frad ein dydd
a niwed stablau newydd.
O dan dinsel ein celwydd
y mae'r brad mor rhad, mor rhwydd
i'r un, er parablu'r iaith,
yr un na wêl estroniaith;
Yn creu angel o'i gelyn,
credu'n wyrdd - a'r crud yn wyn.
Nos oeraidd a di-seren
sy' i 'aea' hen Walia wen,
â'r un bach yn herio'n bod,
y mae hiraeth am Herod.
Rhagfyr 2004
|