Y mae erioed yng Nghymru wen - do iau yn dod pan fo'r angen a dywed ffrwd eu hawen nad yw beirdd am ddod i ben.
Fel sawl Ifor sawl Morys - sawl Guto sawl Gutun a Brwynllys sawl Owain a sawl Lewys un o'r rhain yw Iwan Rhys.
Mehefin 2001