Gyda'r Nos
Aron Pritchard
Gyda'r nos fe wyliaf
innau'r
dref yn huno dan y lampau,
ond er rhythu drwy y golau
gwn na wnaf ei gweled hithau.
Gyda'r nos mae'r glaw
yn wylo
ar fy ffenest unwaith eto,
awr am awr i'r dref mae'n syrthio...
'Rwyf fi'n unig, unig heno.
Ionawr 2001