(Wedi gweld merch ifanc wedi'i lapio mewn blancedi gwlyb ar stepen flaen Spar, ar noson allan yn Aberystwyth.)
Heddiw, yng nghwmni meddwon, yn welw, fe'i gwelais drwy'r neon yn wlyb; tybed a wêl hon yfory drwy'r diferion?
Hydref 2001