Deuthum i ddinas dethol
ymhell bell o Rosybol,
draw ar daith dros dir y de
ar drol am reid i rywle,
a draw i Gynheidre’r es
ar hon, a dyma’r hanes.Rhyw basio heibio’r o’n i,
a hynny tra’n barddoni.
Roedd awydd tafarn arnaf,
a bar hwyr, a chwmni braf,
rhyw bub grub i gadw gwres,
cinio a chroeso cynnes.
Gwelais un a gelwais, ‘Ha!
Hafan im yw’r fan yma.’
Llety urddedig ddigon,
caf aros y nos yn hon.
Yr oedd arwydd o dderw
yn lliw hardd, af ar fy llw,
yn lliw hardd uwch drws y lle,
‘Cwyn hydrum pub Cynheidre.’
Yno’n dwt es mewn cyn deg
a’r gwas yn clymu’r gaseg,
a minnau mwy yn y man
yn well, a’r gwas tu allan;
fo a’r gaseg yn rhegi
yn reit bethma arna i.
Ond O! fe ddaeth syndod im,
gwelais ryw hen Ap Gwilym.
Fflasiodd ei hir a thoddaid
i wydd y bar yn ddi-baid.
Ato, fe alwai’r waiter
draw o’i sêt, gan ordro, ‘Syr,
dere â bwyd draw i’r bardd
a’i anfon at newynfardd.
Galwodd yr hen ap Gwilym
yn hanner call ar ryw Kim,
wincio arni hi a wnaeth
a’i hudo dan orfodaeth.
Ei hudo trwy ddweud, ‘Ddoi-di
ataf i fyta ’fo fi.
Rhyw ystâd o rost ydoedd
a chig rhost ei ymffrost oedd,
cig rhost oedd yn gôst i gyd,
yfai Rioja hefyd.
Y gwin coch oedd gwenwyn Kim
a galwai'r hen Ap Gwilym
‘Oi, Syr,’ ar ei waiter o,
‘un botel i babe eto.’
Wedi bwyd, ei doddaid bach
anturiai’n doddaid hirach.
Yr oedd Kim hardd y 'come on'
yn Gim oedd braidd yn gomon,
am ei baladr ymbiliai
ac at wres y gwant yr âi,
ac yn wir roedd chwant gan hon
dylino’i unodl union.
Yn y fan, cai weld pa fudd
fu’r ymarfer ar Morfudd.
Bu gan hynny Dyddgu, do
yn atyniad, ond heno,
heno gwn mai’r hyfryd Gim
piau gwely Ap Gwilym.
Gwnaed amod i ddod, y ddau
i’w wneud-o mewn munudau.
Yn y bar roedd merch arall
un llai’i phrydferthwch na’r llall,
smociai ac yfai hefyd
ond ro’n i’n ddigwmni’i gyd,
cans i mi, hen gwmni’r gwas
a berai gryn embaras.
Os dwi fy hun am unnos
ma’ boi’n iawn, ond dim bob nos!
Enw swynol ’di Sonia,
am un dydd mae’n enw da;
arni rhois winciad tadol,
a do’n wir ces winciad nôl.
Roedd Sonia’n bishyn annoeth
ond er hynny’n bishyn boeth.
A hi ddudodd, ‘A ddoi-di’n
dy byjama ata i?’
Heb os, caledai’n ddi-baid
Sonia fwy na chytseiniaid.
Yna’n siwr cytunais i
ei wireddu’n ffafr iddi.
I’w stafell hi mi driwn
heidio’n saff heb wneud un swn.
Ac o lawr aeth pawb i’w gwlau
i gwlio a diffodd golau.
Dafydd, ’mhen awr, o’i stafell
oedd yn ceisio mentro ’mhell,
y bardd mawr yn fawr ei fin
yn weindio hyd y landin,
yn drybowndian yn annoeth
ati â’i big yn reit boeth.
Roedd o, Ddafydd ar ddyfod
at y lana, boetha’n bod,
ond roedd cawg yrhawg yn rhydd
a llafar badell efydd
a hopiodd draw o’r cwpwrdd,
a’i dalcen wrth ben y bwrdd.
ac ar ymyl ei grimog
andros o boen, drws y bog
a’i waldiodd, cwympodd mewn cur
a’i gywydd oedd llawn gwewyr.
Y boen leihaodd ei big
a’i gwneud yn ddisgynedig.
Ac ‘O Dduw,’ gweddiai o
'i ddyn, plis maddau heno.
O Dduw, rho dy faddeuant
i’r gwr sy’n siwr o droi’n sant.’
Tra’i fod o’n gweddio’n dda,
es innau draw at Sonia!