acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Dwr Awst

I gyfarch Jason a Meinir ar achlysur eu priodas

Iwan Rhys

Yn nwr Awst Aberystwyth
berw'r lli sy'n bwrw llwyth
o ro mân o enau'r môr
yn gerrig ar y goror
a gemwaith cain y gwymon
yn y dwr sy'n harddu'r don.

Hon yw'r gefnlen eleni
a chlywn gloch eich uno chi
yn datgan y gân ar goedd
mai chi yw miri'r moroedd:
chi'ch dau yw harddwch y don
a cheinder gwych y wendon,

chi'r awel dros yr heli,
chi'r glasddwr sy'n llanw'r lli,
chi yw pwer y cerrynt
a rwyga'r graig ar ei hynt
yn ro mân ar draethau'r môr,
yn rhesi cain o drysor.

Wedi'r "Gwnaf", bydd haf o hyd,
pob gaeaf yn haf hefyd:
un haf fel mil o hafau
yn dal i gynhesu dau;
rhyw hir haf drwy'r tonnau rhwyth
yn nwr Awst Aberystwyth.

Awst 2003

cnvrule.gif (2354 bytes)