Rhywle draw ar y gorwel
'dw i dy angen di.
Rhywle draw ar yr awel
'dw i dy angen di.
Rhywle draw, heb ofnau'r byd
mae pawb yn un.
Rhywle draw, ti di'r un
sy'n fy lleddfu i.
Rhywle draw, yn yr hwyrnos,
mae adlais o hyd
Adlais sydd yn y cyfnos
ohonot ti.
Rhywle draw, cariad sy'n
suo dyn.
Rhywle draw, heddwch sy'n
teyrnasu'r byd.
Yna'n fy nghell,
Yma yn gaeth,
Ofnau sy'n fy llethu.
Yma'n fy nghell,
Yma yn gaeth,
Mae'n anodd teimlo'r tân a
fu.
Rhywle draw mae hiraeth
o'n dyddiau ni.
Rhywle draw mae atsain,
y gwewyr du.
Rhywle draw, llonyddwch
yw ein paradwys ni.
Rhywle draw, gofidiau
wedi dianc fydd.
Rhywle draw ar y gorwel
'dw i dy angen di.
Rhywle draw ar yr awel
'dw i'n dy ddisgwyl di.
'Dw i'n dy ddisgwyl di,
dy ddisgwyl di.