|
Rigmarôl
(ar ôl darllen 'Ty Dol' gan Henrik Ibsen)
Iwan Rhys
Rhyw gyntefig rigmarôl
o hyd yw fy nyfodol:
bod yn gymar a chariad,
rhannu ei dy a'i droi'n dad.
I wr hael esgor o hyd
ar fab, a rhoi i'w febyd
fy hunan mewn baban bach
a hyn i gynnal llinach.
Rhoi gwres i wely pleser
ei dabw fel tedi bêr.
Rwy'n ddyledus i'w gusan,
Doli glwt i'w deulu glân.
Hyn o fyd yw'n nyfodol:
Rhyw gyntefig rigmarôl.
Mehefin 2002
|