Maer hen wynt fu gynt oi go
Heddiw drwyr Rhiw yn rhuo,
A swn y derwn y don
A dyrr yn Aberdaron.
Mae hin dymor mynd oma
Ar holl wenoliaid yr ha.
Ond maer adar yn aros
Ar y graig arw ar rhos.
Be welodd yr hac boliog o Lundain,
A landiodd mor dalog?
Nid brenin ar ei riniog,
Nid dyn trist, ai Grist ar grog,
Ond dyn gwyllt, fel dewin oi go. - Hyll iawn
Ywr lluniau ohono:
R.S. sych yn ei ddrws o,
Ac R.S. oer ei groeso.
R.S. yn oer ei groeso?
Nid ir un oi adar o!
Carai ei wraig, carai win,
Carair ifanc, ar rafin,
A charai holl drwch yr iaith,
Ei hofarôls, ai hafiaith
Bur gwaith, ar bara ar gwin
Olaf ym Mhentrefelin,
Ac maer gwynt drwy Gymru i gyd,
Manafon, a Môn hefyd.
Ond maer adar yn aros
Ar y graig arw ar rhos.
Aros byth, R.S., y bydd
Adar mân dewr y mynydd.