|
|
|
|
I RS wedi'r CroesiCynan JonesA fu cwyngan gwylanodYn gwmni ar y daith? Ynteu sgrech tylluan A'th hebryngodd Tua'r traeth? Os mai traeth oedd, Neu efallai glogwyn Yn gwahodd tua'r gwyll? Ar y gorwel, Ai machlud a welaist? Ai gwawr, wen Oleu? A glywaist ti sibrwd Yr Ateb Wedi i ti droi? Ynteu eco cwestiwn newydd? Hydref 2000 |