|












| |
Y Sais chwerw
Mei Mac
O dy Al yn Alltwalis - hyd lannau
chwedlonol y Ganjis,
O'r East End i'r West Indis
O Fwloin draw i Felīs
Yn Slough, ar Ynys Lewis - o Durin
i draeth Bognor Regis,
yn Saron, Bwenos Źris
Aberdār a'r Hebridīs.
Yn nhy nain ac yn Ennis, - yng Nghawloon
ac yng ngwlad y Cardis,
yn Nefyn a Ben Nevis,
Ty'n Twll a Stockton-on-Tees.
Yn Nanhyfer, Nant Peris - yn Nepal,
mewn pyb yn Devizes,
Blaenau a Ballyhaunis,
Yng Nghockermouth a'r Sowth Seas.
Yn Llanrhuddlad yn Addis - Ababa,
Yn y Borth a'r Orcnis
yn Y Waun ac yn Nhunis,
Ciwźt a'r Florida Cīs.
Ym Mhrāg ac ym mro'r hagis - yn Hendy
ac yn Indianaplis
y maent yn melltithio'r mis
hyd'noed pan ganwyd Watneys.
Watneys yw'r gair i'w sisial, - a'i osgoi,
'mhob sgwrs rag creu scandal.
hynod i rhywun gynnal
risźt am gwrw mor sāl.
Awst 2000
|