Toreth o genedlaethau;
y rhai hen ynghlwm i'r iau
yn llonydd yn y lluniau.
Yno, wel pawb yn peidio fel pobol,
pob un yn rhif mewn gwersyll difrifol,
yno'n un llwyth sy'n pydru mor llethol,
yno eu magu'n epil cemegol.
Un ffau o anwarineb ffôl, yno:
Y lle i frifo y lleiafrifol.
Dan gaead yr anfadwaith y mae bedd,
am y bu dynoliaeth,
yn ulw dros ei hiliaeth,
yn llanw, a meirw maith.
Yn ennyd Spielberg heno,
un hil sy'n dal i wylo;
yn gofyn inni gofio.