Wrth i rai rythu i’r awyr hyd y Fflint ac Ystrad Fflur, a chwyno nad oes sôn am sêr, yn Nefyn a Llanofer, na smic o’u hanes ym Môn, a phrinder sêr yn Saron,
yn dyst ar glust rhai’n ein gwlad mae brain a Mab yr Ynad.
Tachwedd 2002